|
BETH YDIR
ROTARI?
Mae on anodd esbonio, heb
swnion ffuantus, beth yn union ydir Rotari a pha fath o waith y
maen ei wneud yn lleol a thros y byd. Beth bynnag, dyma geisio rhoi
cynnig arni.
Rydym yn rhan o Rotari
Rhyngwladol, rhwydwaith fyd-eang o wirfoddolwyr sydd wedi ymroi i wasanaethu
eraill, y mudiad mwyaf oi fath yn y byd ar gyfer bobl broffesiynol a
busnes gyda 1,180,000 o aelodau dros y byd mewn 166 o wledydd.
Mae yna oddeutu 58,000 o
aelodaur Rotari yn Ynysoedd Prydain ac Iwerddon ar rheiny mewn
1,845 o Glybiau. Mae pob aelod wedi ymroi i helpur rhai sydd mewn angen a
gweithio tuag at ddealltwriaeth a heddwch byd-eang. Maer gwaith yn dod
â boddhad mawr, a chaiff yr aelodau gymryd cymaint neu gyn lleied o ran
ag y mae eu hamser yn ei ganiatáu.
Ond mae yna fwy na hyn ir
Rotari. Maer Clybiaun cynnal cyfarfodydd yn gyson ac mae hyn yn
caniatáu ir aelodau fwynhau a datblygu perthynas gadarn
âi gilydd.
Mae gan bob aelod or
Rotarir hawl i fynychu cyfarfod o unrhyw Glwb lle bynnag mae o yn y byd.
Golyga hyn bod yna bob amser rhywle i fynd i fwynhau cwmni pobl or un
anian, lle bynnag y byddwch yn teithio.
Maer Rotarin cynnwys
pobl o bob lliw gwleidyddol a phobl anwleidyddol, pobl o bob cred grefyddol a
phobl ddigrefydd, ac maen nhw iw cael yn y rhan fwyaf, os nad ym mhob un,
o wledydd y byd.
Yn ein cyfarfodydd mi fyddwn
nin cael hwyl gydan gilydd mewn ysbryd o frawdgarwch ac ewyllys da.
Mae rhan fwyaf yr aelodau mewn
clybiau lleol yn ddynion ac yn wragedd busnes a phroffesiynol syn gosod
gwasanaethu eraill uwchben eu diddordebau eu hunain ac sydd am hyrwyddo
heddwch, addysg a brawdgarwch drwyr byd.
Prif nodwedd aelod or Rotari
yw gonestrwydd a chywirdeb ei fywyd busnes a phroffesiynol.
Prif nodwedd mudiad Rotari yw ei
delfryd. Braint iw haelodau yw cael gofalu amdani ac maen
ddyletswydd arnyn nhw iw hyrwyddo ac i gyfrannu ou talent iddi.
Rydym i gyd yn gwisgo bathodyn
olwyn cocos bach, logo Rotari Rhyngwladol. Mae yna bedwar dant ar hugain ar yr
olwyn - arwydd on hymroddiad i fod yn aelodau pedair awr ar hugain y
dydd.
Mae pob aelod yn rhan o olwyn fawr
y Rotari.
Mae pob Clwb fel casgliad o
olwynion cocos bach, pob un yn cydweithio ac yn cydsymud âr llall,
a phob Rhanbarth yn echel yrru syn cysylltur Clybiau âi
gilydd fel rhan o beiriant mawr y Rotari.
Pan maer peiriant yna wedi
ei gynnal yn iawn ac yn gweithio hyd eithaf ei rym mae ganddor nerth i
greu gwir newid yn y byd.
GWELEDIGAETH Y ROTARI
Trwy ddylanwad y Rotari fe allwn
annog pobl o ewyllys da o bob cwr or byd i wella amgylchiadaur
tlawd, i wella iechyd y claf, addysgu plant i osgoi cyffuriau a chynorthwyo i
ddileu afiechydon.
Fe allwn ni ac mi fyddwn nin
cynorthwyor dall i weld a dod â dwr yfed glân ir rhai
sydd ei angen.
Maen bosib, un diwrnod, y
bydd gwaith y Rotarin dylanwadu ar lywodraethau i beidio â rhyfela
ac yn hytrach i wneud cynlluniau heddwch a chynlluniau i warchod yr amgylchedd.
Os oes gennych chi ddiddordeb yng
ngwaith ein Clwb Rotari cysylltwch âr ysgrifennydd drwy lythyr
ir cyfeiriad isod er mwyn i ni allu eich gwahodd i un on
cyfarfodydd:
Ysgrifennydd Clwb Rotari Abergele
d/o Gwestyr Kinmel Manor
Ffordd Llansansiôr
Abergele
Sir Conwy
LL22 9AS


 |