Welcome To The Abergele Rotary Club

Welcome2 News 2009 to 2010 our  Awards  Information What is  Rotary  Club - Services  History of club-RI News 2009 to 2010  Links  Location DG news leter

BETH YDI’R ROTARI?


Mae o’n anodd esbonio, heb swnio’n ffuantus, beth yn union ydi’r Rotari a pha fath o waith y mae’n ei wneud yn lleol a thros y byd. Beth bynnag, dyma geisio rhoi cynnig arni.

Rydym yn rhan o Rotari Rhyngwladol, rhwydwaith fyd-eang o wirfoddolwyr sydd wedi ymroi i wasanaethu eraill, y mudiad mwyaf o’i fath yn y byd ar gyfer bobl broffesiynol a busnes gyda 1,180,000 o aelodau dros y byd mewn 166 o wledydd.

Mae yna oddeutu 58,000 o aelodau’r Rotari yn Ynysoedd Prydain ac Iwerddon a’r rheiny mewn 1,845 o Glybiau. Mae pob aelod wedi ymroi i helpu’r rhai sydd mewn angen a gweithio tuag at ddealltwriaeth a heddwch byd-eang. Mae’r gwaith yn dod â boddhad mawr, a chaiff yr aelodau gymryd cymaint neu gyn lleied o ran ag y mae eu hamser yn ei ganiatáu.

Ond mae yna fwy na hyn i’r Rotari. Mae’r Clybiau’n cynnal cyfarfodydd yn gyson ac mae hyn yn caniatáu i’r aelodau fwynhau a datblygu perthynas gadarn â’i gilydd.

Mae gan bob aelod o’r Rotari’r hawl i fynychu cyfarfod o unrhyw Glwb lle bynnag mae o yn y byd. Golyga hyn bod yna bob amser rhywle i fynd i fwynhau cwmni pobl o’r un anian, lle bynnag y byddwch yn teithio.

Mae’r Rotari’n cynnwys pobl o bob lliw gwleidyddol a phobl anwleidyddol, pobl o bob cred grefyddol a phobl ddigrefydd, ac maen nhw i’w cael yn y rhan fwyaf, os nad ym mhob un, o wledydd y byd.

Yn ein cyfarfodydd mi fyddwn ni’n cael hwyl gyda’n gilydd mewn ysbryd o frawdgarwch ac ewyllys da.

Mae rhan fwyaf yr aelodau mewn clybiau lleol yn ddynion ac yn wragedd busnes a phroffesiynol sy’n gosod gwasanaethu eraill uwchben eu diddordebau eu hunain ac sydd am hyrwyddo heddwch, addysg a brawdgarwch drwy’r byd.

Prif nodwedd aelod o’r Rotari yw gonestrwydd a chywirdeb ei fywyd busnes a phroffesiynol.

Prif nodwedd mudiad Rotari yw ei delfryd. Braint i’w haelodau yw cael gofalu amdani ac mae’n ddyletswydd arnyn nhw i’w hyrwyddo ac i gyfrannu o’u talent iddi.

Rydym i gyd yn gwisgo bathodyn olwyn cocos bach, logo Rotari Rhyngwladol. Mae yna bedwar dant ar hugain ar yr olwyn - arwydd o’n hymroddiad i fod yn aelodau pedair awr ar hugain y dydd.

Mae pob aelod yn rhan o olwyn fawr y Rotari.

Mae pob Clwb fel casgliad o olwynion cocos bach, pob un yn cydweithio ac yn cydsymud â’r llall, a phob Rhanbarth yn echel yrru sy’n cysylltu’r Clybiau â’i gilydd fel rhan o beiriant mawr y Rotari.

Pan mae’r peiriant yna wedi ei gynnal yn iawn ac yn gweithio hyd eithaf ei rym mae ganddo’r nerth i greu gwir newid yn y byd.

GWELEDIGAETH Y ROTARI


Trwy ddylanwad y Rotari fe allwn annog pobl o ewyllys da o bob cwr o’r byd i wella amgylchiadau’r tlawd, i wella iechyd y claf, addysgu plant i osgoi cyffuriau a chynorthwyo i ddileu afiechydon.

Fe allwn ni ac mi fyddwn ni’n cynorthwyo’r dall i weld a dod â dwr yfed glân i’r rhai sydd ei angen.

Mae’n bosib, un diwrnod, y bydd gwaith y Rotari’n dylanwadu ar lywodraethau i beidio â rhyfela ac yn hytrach i wneud cynlluniau heddwch a chynlluniau i warchod yr amgylchedd.

Os oes gennych chi ddiddordeb yng ngwaith ein Clwb Rotari cysylltwch â’r ysgrifennydd drwy lythyr i’r cyfeiriad isod er mwyn i ni allu eich gwahodd i un o’n cyfarfodydd:


Ysgrifennydd Clwb Rotari Abergele

d/o Gwesty’r Kinmel Manor

Ffordd Llansansiôr

Abergele

Sir Conwy

LL22 9AS



CLWB ROTARY ABERGELE

 Welsh DG news leter